MAE fy mywyd ar fin newid am byth. O fewn yr wythnosau nesaf bydd nosweithiau o gwsg di-dor yn ddim ond atgof pell a bydd bywyd tipyn gwahanol i'r hyn rwyf yn ei adnabod heddiw.
Neu o leiaf dyma mae rhieni eraill wedi fy rhybuddio sydd yn dod o gael plant.
Mae'n gyfnod hynod gyffrous ond eto mae'n anodd osgoi teimlo ychydig o nerfusrwydd wrth i ni baratoi am brofiad hollol newydd a diarth.
lv lv bags bagsRhyw gyfuniad od o ansicrwydd a chyffro sy'n anodd iawn ei ddiffinio, ac mae'n wir dweud bod elfen o ofn yn lv bags y gymysgedd hefyd.
Sut brofiad fydd yr enedigaeth? Sut fyddai'n ymateb i'r boen? Fydd y babi'n bwydo'n iawn? Fydd diffyg cwsg yn mynd yn drech na ni? Pryderon sydd yn amhosib eu tawelu eto.
Wrth gwrs mae rhywfaint o baratoi yn angenrheidiol - y cewynnau wedi eu prynu, y goets wedi cyrraedd a'r fasged Moses wedi ei fenthyg . Isymwybod Ond rhywsut dim ond cychwyn y broses o baratoi ydy'r pethau materol hyn ac mae'r gwaith go iawn yn digwydd yn y mannau mwyaf cudd o fewn yr isymwybod, a phwy a wyr os bydd hynny byth yn ddigonol.
Y bwriad ydy rhoi genedigaeth yn Ysbyty Glangwili a hynny o dan oruchwyliaeth gofalus y Fydwraig, gyda'r sicrwydd bod y gofal meddygol gorau ar gael os oes angen ac y bydd y plentyn yn cael ei eni mewn amgylchedd glan a chroesawgar.
Wrth i mi ystyried beth sydd o 'mlaen mae'n gysur gwybod bod miloedd o fenywod eraill ar draws y byd Abercrombie & Fitch Clothing yn wynebu union yr un ansicrwydd a mi.
Tra'n chwilota ar y we am gyngor ynglun a pha goets fyddai orau i'w phrynu fe ddes i ar draws hanes Allah Rakhi.
Abercrombie & Fitch ClothingRoedd hi hefyd yn feichiog ond roedd ei gofidiau hi yn rhai tra gwahanol i fy rhai i. Mae Allah yn byw mewn pentref bach ym Mhacistan a bu raid iddi gerdded dros 60 cilomedr er mwyn dianc rhag y llifogydd diweddar.
Genedigaeth Nid yn unig roedd angen iddi oresgyn y gofidiau naturiol sydd ynghlwm wrth roi genedigaeth, ond hynny yn wyneb y drychineb erchyll sydd yn parhau i achosi dinistr enfawr yn y wlad.
Mae'n annhebygol bod Allah wedi colli cwsg dros pa goets fyddai orau iddi brynu i'w phlentyn na chwaith os bydd y babi'n cysgu'n dda dros nos.
Bu raid iddi roi genedigaeth ar ochr y ffordd heb unrhyw gymorth a dim son am fydwraig na doctor ar gyful y lle. Roedd hi mewn poen aruthrol a dim gobaith am unrhyw gyffur i luniaru'r symptomau.
Ei phrif flaenoriaeth oedd bod hi a'i phlentyn newydd-anedig yn byw.
Abercrombie & Fitch ClothingYdy, mae fy mywyd ar fin newid am byth ac er waethaf hanes Allah mae fy ngofidiau naturiol yn parhau.
Mae'n amhosib peidio teimlo rhyw bwl o sobrwydd serch hynny wrth feddwl am y miloedd o fenywod sydd heddiw yn wynebu esgor plentyn i fyd o dlodi a newyn ac efallai bod lles i mi gofio hyn wrth i mi bendroni dros fy man ofidiau dinod.
没有评论:
发表评论